Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2021

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Ymateb Archwilio Cymru

Cyflwyniad

1           O ystyried ein cylch gwaith, byddwch yn sylweddoli na fyddai'n briodol i ni roi sylwadau ar flaenoriaethau cymharol ar gyfer y Pwyllgor. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud sylwadau isod ar rai materion penodol sy'n deillio o'n gwaith blaenorol a'r gwaith sydd ar y gweill a allai fod yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor. Gobeithio y bydd hyn yn werthfawr i'r Pwyllgor wrth lunio ei raglen waith.

2           Mae’r ymateb hwn yn rhoi trosolwg eang o waith archwilio blaenorol a gwaith parhaus/wedi’i gynllunio ar draws llywodraeth leol a thai, gan ganolbwyntio ar ein gwaith ar lefel Cymru gyfan ac rydym yn ymwybodol, hyd yn oed pan rydym yn archwilio materion sy'n ymwneud â chymunedau o bobl, yn hytrach na'r gymuned adeiledig, y gall yr adolygiadau hyn adlewyrchu materion ehangach ynghylch llywodraethu, perfformiad a gwerth am arian cyffredinol ar draws llywodraeth leol. Pan fo'n berthnasol, rydym wedi cyfeirio at rai o'r ymatebion yr ydym wedi'u cyflwyno yn ddiweddar i bwyllgorau eraill y Senedd ar yr un pynciau.

3           Byddem yn barod i drafod unrhyw agweddau ar ein gwaith archwilio ar lefel leol a/neu genedlaethol yn fanylach gyda'r Pwyllgor, ei dîm clercio neu ei ymchwilwyr wrth i'r Pwyllgor lunio barn ar ei flaenoriaethau ei hun. Pan rydym wedi disgrifio'r gwaith sydd ar y gweill, mae'r cynlluniau a'r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw'n parhau i fod yn hyblyg wrth i ni barhau i ystyried pwysau ehangach ar wasanaethau sy'n deillio o ymateb y pandemig.

Ynglŷn â’n gwaith archwilio ar draws llywodraeth leol a thai

4           Mae ein cwmpas archwilio ar draws llywodraeth leol yn eithaf eang. Mae'n cynnwys ein gwaith archwilio cyfrifon, gwaith archwilio perfformiad lleol ar draws y sector ac astudiaethau cenedlaethol. Rydym yn cyhoeddi ein hadroddiadau ar wefan Archwilio Cymru. Rydym yn cysylltu â chyrff adolygu allanol eraill i gydlynu ein swyddogaethau a thrafod rhaglenni gwaith priodol.

5           Ymhlith pethau eraill, mae gan yr Archwilydd Cyffredinol ddyletswydd o dan adran 17 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i fod yn fodlon drwy archwilio cyfrifon bod cyrff llywodraeth leol wedi gwneud trefniadau priodol i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau. Mae ein proses sicrhau ac asesu risg flynyddol ar draws y prif gynghorau yng Nghymru yn cynnwys ystyried gwahanol feysydd corfforaethol a gwasanaeth, gan gynnwys tai a digartrefedd, sydd wedyn yn llywio ein gwaith ehangach o gynllunio rhaglenni gwaith. Yn ystod 2021-22, bydd ein gwaith sicrhau ac asesu risg yn cynnwys pwyslais ar gynlluniau lleihau carbon, cynllunio adferiad, sefyllfa ariannol, trefniadau hunanasesu cynghorau a goblygiadau eraill Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

6           Mae gan yr Archwilydd Cyffredinol hefyd ddyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i wneud archwiliadau datblygu cynaliadwyarchwiliadau o'r graddau y mae cyrff yn y sector yn glynu wrth yr egwyddor datblygu gynaliadwy wrth bennu a dilyn amcanion llesiant. Yn gynyddol, rydym yn ceisio integreiddio ein harchwiliadau datblygu cynaliadwy â gwaith archwilio arall, gan gynnwys gwaith i helpu i gyflawni'r ddyletswydd trefniadau priodol.

7           O dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gall yr Archwilydd Cyffredinol gynnal "arolygiadau arbennig" o brif gynghorau os yw o'r farn y gallent fod yn methu â bodloni gofynion perfformiad y Ddeddf honno. Gall adroddiadau'r Archwilydd Cyffredinol ar arolygiadau arbennig argymell bod Gweinidogion Cymru yn cymryd camau i helpu cyngor i wella perfformiad.

8           Nid yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (cymdeithasau tai), ond mae ei bwerau archwilio ehangach yn ei alluogi i archwilio materion sy'n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus ar draws y sector ac, o bosibl, y darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni wrth ymgymryd â’i swyddogaeth reoleiddio ei hun. Er na’i hysgogwyd gan ein gwaith ni, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y pumed Senedd ymchwiliad i reoleiddio cymdeithasau tai.

9           Ceir darpariaethau hefyd mewn deddfwriaeth i Weinidogion Cymru gytuno bod yr Archwilydd Cyffredinol yn ymgymryd â rhaglenni o astudiaethau i wella gwerth am arian landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Fodd bynnag, nid oes unrhyw raglenni o'r fath wedi’u cytuno. Mae deddfwriaeth hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru drefnu gyda'r Archwilydd Cyffredinol iddo gyflawni eu swyddogaethau arolygu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ond nid oes trefniadau o'r fath ar waith.

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus

10        Ar 15 Medi, cyhoeddwyd ein hadroddiad 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus' diweddaraf. Mae ein hadroddiad yn ymdrin â rhai o'r heriau ehangach sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol. Dros y pedair i chwe wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi cyfres o allbynnau cysylltiedig. Bydd y rhain yn cynnwys sylwadau byr ar 'Darlun o Ysgolion', 'Darlun o Ofal Cymdeithasol' a 'Darlun o Lywodraeth Leol'. Bydd pob un o'r rhain yn rhoi sylwadau ar strategaeth, cyllid, perfformiad, galw a chapasiti a byddwn yn tynnu sylw at rai materion allweddol i'r sectorau o'n safbwynt ni.

11        Cyfeiriwyd at ein hadroddiad Darlun o Ysgolion yn ein hymateb i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Gwnaethom grynhoi hefyd yn yr ymateb hwnnw rai materion allweddol o'n hadroddiad dilynol ym mis Tachwedd 2020 ar lenwi yn sgil absenoldeb athrawon, gwnaethom gyfeirio at ein hadroddiad ar raglen ysgolion ac addysg yr 21ain ganrif ym mis Mai 2017, a gwnaethom ddisgrifio ein gwaith presennol i archwilio gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i Gymru y gobeithiwn ei gwblhau erbyn diwedd 2021-22.

12        Yn yr un modd, rydym wedi cyfeirio at ein hadroddiad Darlun o Ofal Cymdeithasol yn ein hymatebion i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Bydd ein hadroddiad Darlun o Ofal Cymdeithasol yn nodi bod yr heriau ariannol o ran cynaliadwyedd a chyllid sy'n wynebu'r sector yn hirsefydlog ac mae’r cynnydd o ran mynd i’r afael â nhw wedi bod yn araf. Mae'r pandemig wedi gwneud yr angen am newid yn fwy dybryd, ond bydd trawsnewid yn dal i fod yn heriol. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at brinder gweithlu, gan nodi bod rhaglen lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei bwriad i gynyddu prentisiaethau mewn gofal cymdeithasol a sicrhau bod gweithwyr gofal yn cael y cyflog byw gwirioneddol. Gall gwella cyflogau gweithwyr gofal helpu i lenwi bylchau yn y gweithlu gofal cymdeithasol, ond bydd costau staff uwch yn ychwanegu at bwysau ariannol ar ddarparwyr.

13        Ymhlith pethau eraill, bydd ein hadroddiad Darlun o Lywodraeth Leol yn myfyrio ar newidiadau sy'n deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gynnwys sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Bydd yn cynnwys sylwadau ar gyllid llywodraeth leol ac yn nodi, yn genedlaethol, fod data cymaradwy ar berfformiad diweddar y cyngor yn amrywio ar draws meysydd gwasanaeth.

14        Mae ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus yn nodi pum maes allweddol o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus lle byddwn yn disgwyl gweld cynnydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys 'harneisio technoleg ddigidol i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch' a 'defnyddio data a gwybodaeth i ddysgu a gwella ar draws y system gwasanaeth cyhoeddus gyfan'. Fe wnaethom gydnabod bod yr ymateb i'r pandemig wedi dangos y gall gwasanaethau cyhoeddus symud yn gyflym i gyflwyno a mabwysiadu technoleg ddigidol newydd. Fe wnaeth ein hadroddiad ym mis Rhagfyr 2018 ar aeddfedrwydd llywodraeth leol wrth ddefnyddio data amlygu’r her o rannu gwybodaeth â phartneriaid mewn llywodraeth leol. Awgrymodd ein canfyddiadau hefyd fod cryn ffordd i fynd o hyd i awdurdodau lleol ddatblygu diwylliant sy'n gwerthfawrogi ac yn defnyddio data i'w lawn botensial i helpu i wella gwasanaethau a chanlyniadau.

Cyllid llywodraeth leol

15        Ym mis Hydref 2020, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar gynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol. Adroddwyd bod cynghorau a Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd i liniaru effaith y pandemig i'r pwynt hwnnw ond bod cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol yn her barhaus.

16        Ers mis Hydref 2020, rydym wedi cwblhau rhagor o waith archwilio lleol ar y pwnc hwn. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau ar gyfer cynghorau unigol sy'n darparu asesiad cynaliadwyedd ariannol wedi'i ddiweddaru. Mae'r adroddiadau'n ystyried effaith barhaus y pandemig, y strategaeth ariannol, y cronfeydd wrth gefn, y ddarpariaeth o’i chymharu â chyllidebau arfaethedig ac arbedion arfaethedig, a hylifedd. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi crynodeb cenedlaethol byr sy'n tynnu sylw at rai themâu allweddol o'n gwaith ac rydym yn bwriadu rhyddhau offeryn data cyllid llywodraeth leol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

17        Mae adroddiadau cenedlaethol perthnasol eraill sy'n ystyried rheolaeth ariannol llywodraeth leol a/neu'r effaith gyffredinol ar wasanaethau o gyfyngiadau cyllidebol yn cynnwys ein hadroddiad ym mis Ebrill 2021 ar wasanaethau dewisol llywodraeth leol a'n hadroddiad ym mis Hydref 2020 ar fasnacheiddio mewn llywodraeth leol. Gan edrych yn ôl ymhellach, adroddwyd ar gynllunio arbedion ym mis Mehefin 2017 ac ar godi tâl am wasanaethau a chynhyrchu incwm ym mis Tachwedd 2016.

Cynghorau tref a chymuned

18        Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio cyfrifon dros 730 o gynghorau tref a chymuned, ar sail 'sicrwydd cyfyngedig'. Rydym eisoes wedi cyhoeddi adroddiadau blynyddol yn crynhoi materion sy'n codi o'r gwaith archwilio hwnnw, yn fwyaf diweddar ym mis Chwefror 2020. Bryd hynny, er ein bod wedi gweld gwelliant mewn rhai cynghorau, roedd nifer yr archwiliadau cymwysedig yn dal yn rhy uchel ac roeddem wedi cyhoeddi 12 adroddiad er budd y cyhoedd yn 2019. Gwnaethom hefyd gyhoeddi adroddiad ar drefniadau archwilio mewnol cynghorau ym mis Ionawr 2019.

19        Rydym wedi nodi methiannau sylweddol a systemig mewn rheolaeth ariannol a llywodraethu ar draws y sector dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw methiannau o'r fath yn aml yn cael eu nodi yn yr archwiliad nes bod gwaith archwilio manylach yn cael ei wneud —yn fwy manwl na'r dull sicrwydd cost isel y mae'n ei ganiatáu'n gyffredinol. Felly, rydym wedi bod yn gwneud newidiadau i'r trefniadau archwilio wrth i ni ddod â'r gwaith archwilio hwn yn ôl 'yn fewnol'.

20        Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ymgymryd â gwaith archwilio ychwanegol i ystyried pryderon yr ydym wedi'u nodi neu a godwyd gyda ni ar gyfer rhai cynghorau. Byddwn hefyd yn parhau i fonitro ac adrodd ar safonau cyffredinol rheolaeth ariannol a llywodraethu, yn enwedig gan y gall cynghorau geisio arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol a ddarperir gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a allai achosi mwy o risg i ddefnydd da o arian cyhoeddus.

Adfywio canol trefi

21        Ar 2 Medi, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar adfywio canol trefi. Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi tynnu sylw at y pwnc hwn ymhlith eu blaenoriaethau. Rydym eisoes wedi tynnu sylw at y gwaith hwn yn ein hymateb i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Yn ystod ein gwaith, rhannwyd ein canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru ac fe wnaethom fynychu Grŵp Gweithredu Canol Tref y Gweinidog blaenorol. Mae ein hadroddiad yn galw am benderfyniadau dewr ac arweinyddiaeth uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol ein trefi, gan wneud argymhellion i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Digartrefedd a chysgu ar y stryd

22        Pwysleisiodd ein hadroddiad ym mis Gorffennaf 2020 ar gysgu ar y stryd fod angen ymateb amlasiantaethol cyfannol er mwyn mynd i'r afael ag anghenion cymhleth pobl sy'n cysgu ar y stryd a'u diwallu. Amlygodd ein hymchwil gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd fod y rhan fwyaf wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, wedi cael diagnosis deuol (iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau) ac yn dibynnu'n drwm ar iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â'u problemau. Ond roeddent hefyd yn cael eu hystyried yn bennaf yn rhai â phroblem tai. Roedd hyn yn helpu i greu digartrefedd parhaus ac roedd y methiant i rannu cyfrifoldeb yn golygu bod arian yn cael ei wastraffu a defnyddwyr gwasanaeth agored iawn i niwed yn cael eu gwthio'n ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau heb unrhyw ddatrysiad.

23        Rydym wedi bod yn ystyried rhywfaint o waith dilynol ar fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, ond nid yw’r cynlluniau wedi'u cadarnhau eto. Ym mis Ionawr 2018, gwnaethom adrodd yn fwy cyffredinol ar sut roedd llywodraeth leol yn rheoli'r galw am wasanaethau digartrefedd yng nghyd-destun Deddf Tai (Cymru) 2014.

Addasiadau tai

24        Ym mis Chwefror 2018, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar addasiadau tai, ac yn dilyn hynny lluniodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei adroddiad ei hun ym mis Gorffennaf 2018. Daeth ein hadroddiad i'r casgliad bod boddhad defnyddwyr ag addasiadau tai yn cuddio system hynod gymhleth, adweithiol ac annheg nad oedd yn darparu ar gyfer pawb a allai fod ei hangen, ac nad oedd cyrff cyhoeddus yn manteisio ar gyfleoedd i wella gwerth am arian. Ers hynny, rydym wedi gwneud gwaith archwilio lleol pellach mewn nifer fach o gynghorau.

Materion tai eraill

25        Rydym wedi sôn am y rhaglen ôl-osod wedi’i optimeiddio, safonau tai a thlodi tanwydd yn ein hymateb i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ac fel y nodir isod. Nid ydym wedi gwneud unrhyw waith archwilio i ystyried y rhaglen ôl-osod wedi’i optimeiddio. Fodd bynnag, mae aelod o'n tîm arfer da wedi bod yn arsylwi ar grŵp cynghori sy'n ystyried caffael a datblygu'r gadwyn gyflenwi. Hyd yma, ein canfyddiad ni yw bod llawer o'r ymgysylltu drwy'r rhaglen hon wedi bod gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn ogystal â’r cwestiwn ynghylch y sectorau rhentu preifat a pherchen-feddianwyr, ceir yr her felly o ran gweddill y stoc sy'n eiddo i'r awdurdod lleol.

26        Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi amlinellu cynlluniau i werthuso rhaglen hirsefydlog Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a datblygu safon ddiwygiedig. Adroddwyd yn genedlaethol ar raglen SATC yn 2012. Pan gafodd ei lansio, nod gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd y byddai'r holl dai cymdeithasol yn cyrraedd SATC erbyn mis Mawrth 2012, er iddi osod targed yn ddiweddarach i bob landlord cymdeithasol wella eu stoc tai er mwyn cyrraedd SATC 'cyn gynted â phosibl, ond beth bynnag erbyn 2020'.

27        Yn 2012, adroddwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n ddigon cyflym i gefnogi a monitro cynnydd ac nad oedd wedi rhoi fframwaith effeithiol ar waith i ddangos gwerth am arian o'r buddsoddiad sylweddol mewn gwaith i gyrraedd SATC. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym hefyd wedi adrodd ar y pwnc hwn mewn nifer o awdurdodau lleol a oedd yn dal i fethu â chyrraedd SATC (hyd yn oed yn caniatáu ar gyfer yr hyn sy'n cael ei gategoreiddio'n 'fethiannau derbyniol'). Deallwn fod disgwyl rhyddhau’r set ddata nesaf ar gydymffurfiaeth SATC cyn bo hir. O ystyried yr heriau a welwyd wrth wireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y SATC presennol, bydd yn bwysig bod gwersi'n cael eu dysgu a'u cymhwyso i'r ffordd y caiff unrhyw safon newydd ei chynllunio, ei hariannu a'i monitro.

28        Ym mis Hydref 2019, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar dlodi tanwydd a oedd hefyd yn llywio gwaith yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig blaenorol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun Trechu Tlodi Tanwydd newydd ym mis Ebrill 2021 a nododd fod y cynllun wedi'i lywio gan ein gwaith ni a gwaith y Pwyllgor blaenorol.

29        Ers ein hadroddiad blaenorol ar dlodi tanwydd, rydym wedi datblygu adolygiad sy'n edrych yn fanylach ar reolaeth Llywodraeth Cymru o'r Rhaglen Cartrefi Cynnes bresennol (sy'n cynnwys cynlluniau Nyth ac Arbed). Mae ein hadroddiad yn edrych yn benodol ar drefniadau cytundebol Llywodraeth Cymru gyda'i 'Rheolwyr Cynllun' penodedig ac yn ystyried trefniadau sicrhau ansawdd Llywodraeth Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar y materion a'r gwersi allweddol i Lywodraeth Cymru eu datblygu i'r broses nesaf o gyflwyno'r Rhaglen. Rydym yn disgwyl cyhoeddi ein hadroddiad cyn diwedd mis Hydref 2021.

30        Yn ystod ail hanner 2021-22, byddwn yn datblygu gwaith cwmpasu ar gyfer archwilio tai fforddiadwy. Yng nghyd-destun pwysau parhaus ar y cyflenwad tai, mae ystod o faterion y gallai'r archwiliad hwn ganolbwyntio arnynt. Un man cychwyn posibl fydd ystyried datblygiadau allweddol mewn ymateb i'r adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy a adroddodd i'r Gweinidog Tai ac Adfywio [ar y pryd] yn 2019.

Gwasanaethau cynllunio

31        Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddwyd adroddiad cenedlaethol gennym ar effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru. Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei adroddiad ei hun ym mis Mehefin 2020. Tynnodd ein hadroddiad sylw at heriau sy'n cydbwyso galwadau sy'n cystadlu â'i gilydd oherwydd cymhlethdodau'r system gynllunio, materion yn ymwneud â llai o adnoddau a chapasiti estynedig, ac amrywiadau o ran prydlondeb ac ansawdd y broses o wneud penderfyniadau. Gwnaethom hefyd dynnu sylw at yr angen am waith pellach i weithredu'r agweddau llesiant ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Pholisi Cynllunio Cymru. Mae gwaith archwilio lleol diweddar hefyd yn tynnu sylw at faterion perfformiad mewn rhai cynghorau.

Gwasanaethau rheoli gwastraff

32        Yn 2018-19, cyhoeddwyd cyfres o dri adroddiad gennym ar reoli gwastraff: atal gwastraff (Mawrth 2019); ailgylchu trefol (Tachwedd 2018); a'r capasiti caffael neu brosesu gwastraff gweddilliol a gwastraff bwyd (Hydref 2018). Ers ein gwaith cenedlaethol blaenorol, rydym hefyd wedi cwblhau gwaith sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff mewn sawl cyngor lleol. Mae gwasanaethau gwastraff yn un o amrywiaeth o bynciau yr ydym yn eu hadolygu'n barhaus yn rhan o'n prosesau asesu risg mewn llywodraeth leol. Credwn fod llawer o'r materion a godwyd gan ein hadroddiadau blaenorol yn parhau i fod yn berthnasol wrth i bolisi/strategaeth ddatblygu.

Y drws blaen i ofal cymdeithasol

33        Ym mis Medi 2019, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ac offeryn data ategol ar y 'drws blaen' i ofal cymdeithasol i oedolion, gan edrych yn benodol ar wasanaethau i oedolion ac yng nghyd-destun disgwyliadau sy'n deillio o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn gyffredinol, adroddwyd, er bod cynghorau yn atal galw am ofal cymdeithasol, nid oedd gwybodaeth, cyngor a chymorth yn gyson effeithiol. Ymhlith pethau eraill, canfuom nad oedd gofalwyr yn dal i gael y driniaeth gyfartal a ragwelwyd gan y Ddeddf, ac roedd darparu eiriolaeth yn parhau i fod yn heriol ledled Cymru.

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

34        Ym mis Tachwedd 2019, adroddwyd ar y cynnydd a wnaethom o ran gweithredu Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyrff llywodraeth leol ond hefyd ystyried swyddogaeth partneriaid eraill. Yn gyffredinol, canfuom fod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn aml yn cael eu siomi gan system anghyson, gymhleth a darniog.

Taliadau uniongyrchol

35        Yng nghyd-destun ei ddiddordeb mewn gofalwyr, rydym wedi tynnu sylw'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at ein hastudiaeth sy’n edrych ar ddarpariaeth awdurdodau lleol o 'daliadau uniongyrchol'. Er ei fod yn faes gwariant cymharol isel, mae darpariaeth Taliadau Uniongyrchol yn ddangosydd da o sut mae awdurdodau lleol yn sicrhau gwerth am arian yn eu gwariant gofal cymdeithasol a sut maent yn hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth pobl yn unol â dyheadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym wedi bod yn casglu barn amrywiol sefydliadau rhanddeiliaid yn rhan o'r gwaith hwn a chan dderbynwyr taliadau uniongyrchol. Rydym yn agosáu at ddiwedd ein gwaith maes ac yn awr yn disgwyl cwblhau ein gwaith yn ystod y gaeaf sydd i ddod.

Comisiynu cartrefi gofal

36        Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn cwblhau gwaith yn y gogledd yn archwilio trefniadau comisiynu cartrefi gofal. Byddwn yn cwblhau'r adroddiad rhanbarthol hwnnw cyn bo hir. Ochr yn ochr â hwnnw, rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb cenedlaethol byr sy'n nodi rhai materion yr ydym yn eu hystyried yn berthnasol ar lefel genedlaethol ac yng nghyd-destun papur gwyn Llywodraeth Cymru ar ofal a chymorth. Gan ddefnyddio ein canfyddiadau o’r gogledd, bydd ein crynodeb cenedlaethol yn herio Llywodraeth Cymru i ystyried a fydd ei chynigion ar gyfer diwygio yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â rhai materion hirsefydlog.

Cydweithio â'r gwasanaethau brys

37        Rydym wedi bod yn edrych ar ba mor dda y mae'r gwasanaethau brys yn cydweithio ac yn integreiddio eu hymateb a'u darpariaeth weithredol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gydnerth ac yn gynaliadwy. Roeddem wedi bwriadu cyhoeddi allbynnau o'r gwaith hwn mewn dau gam ond rydym bellach yn cynllunio un allbwn y gaeaf hwn.

Mentrau cymdeithasol

38        Rydym newydd ddechrau astudiaeth a fydd yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cefnogi creu a datblygu mentrau cymdeithasol ac efallai y byddwn hefyd yn sôn am gymorth perthnasol gan Lywodraeth Cymru. Mae gwreiddiau ein hadolygiad mewn dyletswydd benodol a osodir ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Fodd bynnag, disgwyliwn y bydd hefyd yn ystyried sut y mae menter gymdeithasol wedi cael ei hystyried yn rhan o bortffolios strategol ehangach. Disgwylir i'r gwaith hwn barhau hyd at hydref 2022. Rydym hefyd wedi tynnu sylw at y gwaith hwn yn ein hymateb i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Mynd i'r afael â thlodi

39        Rydym yn bwrw ymlaen ag adolygiad sy'n edrych ar y camau y mae awdurdodau lleol yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi a'i liniaru. Disgwylir i'r gwaith hwn barhau hyd at haf 2022 ac rydym hefyd wedi tynnu sylw ato yn ein hymateb i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Cydnerthedd cymunedol a hunanddibyniaeth

40        Rydym yn bwrw ymlaen ag astudiaeth sy'n ystyried a yw awdurdodau lleol i bob pwrpas yn meithrin cydnerthedd a hunanddibyniaeth mewn dinasyddion a chymunedau. Rydym yn disgwyl i'r gwaith barhau hyd at hydref 2022. Ym mis Tachwedd 2018, canfu ein hadroddiad ar wasanaethau llywodraeth leol i gymunedau gwledig fod traddodiad o gydnerthedd cymunedol cryf a diwylliant o hunanddibyniaeth mewn ardaloedd gwledig yn aml yn gallu cuddio problemau sylweddol. Ochr yn ochr â'r adroddiad hwnnw, gwnaethom hefyd lunio sylwebaeth ar drosglwyddo asedau cymunedol.

Llamu ymlaen – trawsnewid, addasu a chynnal gwasanaethau

41        Rydym yn bwrw ymlaen â gwaith archwilio lleol ar draws y 22 prif gyngor i archwilio eu dull cyffredinol o drawsnewid, addasu a chynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau yng nghyd-destun y pandemig. Yn yr adolygiad hwn, byddwn yn canolbwyntio ar reoli asedau cynghorau yn strategol – yn benodol adeiladau y mae swyddogion yn gweithio ohonynt neu wasanaeth yn cael eu darparu – a'r gweithlu. Bydd ein gwaith lleol yn parhau hyd at wanwyn 2022, gyda'r potensial i adroddiad cryno cenedlaethol ddilyn ar ôl hynny.

Newid hinsawdd a sero net

42        Rydym wedi tynnu sylw yn ein hymateb i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ein bod ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad cychwynnol o'r llinell sylfaen ar y newid yn yr hinsawdd a fydd yn gosod y sefyllfa ar gyfer gwaith archwilio yn y blynyddoedd dilynol, ac yn helpu i lywio penderfyniadau yn ei gylch. Disgwyliwn gwblhau'r adolygiad sylfaenol yn gynnar yn 2022-23, a bydd y dystiolaeth yn cael ei chasglu drwy'r hydref/gaeaf, gan gynnwys sylw i lywodraeth leol a llawer o gynghorau eisoes wedi datgan 'argyfwng hinsawdd'.

43        Byddwn yn ystyried sut mae cyrff cyhoeddus yn paratoi i gyflawni cynlluniau lleihau carbon 2030 Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ystyried swyddogaeth arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru a'r trefniadau y mae cyrff unigol yn eu rhoi ar waith. Bydd yr adolygiad sylfaenol hefyd yn defnyddio gwybodaeth berthnasol o'n rhaglen archwilio ehangach.

Gwaith arall sy'n berthnasol i lywodraeth leol

44        Mae corff eang o waith archwilio blaenorol neu sydd wedi’i gynllunio arall ar lefel genedlaethol sy'n berthnasol i lywodraeth leol ac rydym wedi cyfeirio ato mewn ymatebion i bwyllgorau eraill. Mae enghreifftiau'n cynnwys y canlynol.

·                Gwaith sydd wedi'i gynllunio ar reoli perygl llifogydd.

·                Ein hadolygiad cyfredol yn edrych ar drefniadau cyrff cyhoeddus ar gyfer asesu'r effaith ar gydraddoldeb.

·                Gwaith yr ydym yn bwriadu ei wneud i edrych ar gymorth busnes COVID Llywodraeth Cymru, gan gynnwys arian a ddosberthir drwy lywodraeth leol. Mae'r gwaith hwn yn debygol o ddefnyddio canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o waith paru data sydd wedi'i wneud drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol.

·                Ein hadroddiad ym mis Mawrth 2021 ar y rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a'n hadroddiad ym mis Ebrill 2021 ar gaffael a chyflenwi cyfarpar diogelu personol. Byddwn yn briffio'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar yr adroddiadau hyn ar 22 Medi.

·                Ein hadroddiad ym mis Hydref 2020 ar System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn gwneud rhywfaint o waith dilynol i bwyso a mesur datblygiadau. Disgwyliwn adrodd ar y canfyddiadau archwilio hynny cyn diwedd 2021.

·                Ein pecyn o adroddiadau 'Llesiant Pobl Ifanc' ym mis Medi 2019. Roedd y rhain yn cynnwys sylwebaeth ar rieni ifanc, gofalwyr ifanc, iechyd meddwl, sgiliau a chyflogadwyedd a digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn rhan o offeryn data ehangach, gwnaethom hefyd gyhoeddi data o'r amser ar brosiectau gwaith ieuenctid, achredu, ffynonellau incwm, gwariant a'r gweithlu. Rydym yn ymwybodol bod Estyn wedi adrodd ers hynny ym mis Hydref 2020 ar werth hyfforddiant gwaith ieuenctid ac rydym hefyd yn ymwybodol, ymhlith datblygiadau ehangach eraill, o waith diweddar y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro cenedlaethol.

·                Ein hadroddiad ym mis Gorffennaf 2019 ar y Gronfa Gofal Integredig.

·                Ein hadroddiad ym mis Mai 2018 ar gomisiynu gwasanaethau llety yn strategol i oedolion ag anableddau dysgu.

·                Ein hadroddiad ym mis Ebrill 2018 – 'Siaradwch fy iaith' – yn edrych ar faterion yn ymwneud â goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

·                Ein hadroddiad ym mis Hydref 2017 ar gaffael cyhoeddus.

45        Mae ein hymatebion i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd wedi cydnabod y gwaith ymchwilio a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y pumed Senedd ar blant a phobl ifanc â phrofiad gofal. Yn dilyn hynny cafwyd Adroddiad Trosolwg Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn 2019. Mae'n ymddangos yn glir bod llawer o'r heriau a nodwyd yn y corff gwaith blaenorol hwnnw'n parhau. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 i ddau gam gweithredu cysylltiedig, a gallai fod angen craffu ymhellach ar eu manylion: 'Archwilio diwygio gwasanaethau cyfredol yn radical ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal', a 'Dileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal yn ystod tymor nesaf y Senedd'.